top of page

EIN HANES

Ers bron i 100 mlynedd mae ein Sefydliad wedi cefnogi pobl ifanc yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.  Mae gwreiddiau'r Sefydliad yn mynd yn ôl i feysydd glo cymoedd glofaol De Cymru.

1922

Sefydlwyd y Mudiad gan y Capten John Glynn-Jones a David Davies o Landinam, a gafodd ei enwi fel Arglwydd Davies Llandinam yn ddiweddarach.

Bu Capten Glynn-Jones yn gweithio fel swyddog lles yng Ngrŵp Glo Ocean, sy'n eiddo i’r teulu Davies ac yn berchen ar byllau glo ar draws De Cymru. Roedd yn cydnabod y problemau a wynebir gan y "bechgyn glofaol" ifanc nad oedd ganddynt fawr ddim i'w wneud yn ystod eu hamser hamdden. Lluniodd y syniad o ddatblygu clybiau lle gallai'r bechgyn fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer ffordd iachach o fyw fel clybiau chwaraeon ac ymarfer corff, gweithgareddau diwylliannol a datblygu eu disgyblaeth a'u cyfrifoldeb o fewn eu cymunedau eu hunain.

 

Agorwyd y Clwb Bechgyn cyntaf yn swyddogol yn Nhreharris yn 1922, wedi’i ddilyn gan Glybiau Bechgyn eraill ar draws Cymoedd De Cymru.

 

Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf ym mis Mai 1928 yng Nghaerdydd, lle cytunodd y cyfranogwyr ar gynlluniau ar gyfer datblygu'r Sefydliad yn y dyfodol.

1923

Cymerodd grŵp o fechgyn o Ardal Maes Glo Ocean ran mewn gwersyll a drefnwyd gan Ei Fawrhydi Dug Efrog. Roedd y profiad hwn wedi creu'r syniad o ddatblygu gwersyll tebyg yn Ne Cymru.

1925

Ar ôl cyfnod arbrofol o bythefnos yn 1925, agorodd Gwersyll Bechgyn Sain Tathan - lle gallai aelodau o bob clwb Bechgyn fynychu. Yr enw swyddogol oedd "The Miners’ Welfare Fund District Committee Seaside Camp". Cefnogwyd y cyfleuster gan roddion gan Gronfa Les y Glowyr ac roedd Capten Glynn-Jones yn gobeithio datblygu undod rhwng y gwahanol glybiau gyda chymorth y gwersyll.

1928

Ym mis Gorffennaf cynhaliwyd y Gynhadledd Flynyddol gyntaf gydag arweinwyr clybiau, aelodau'r pwyllgor rheoli ac ysgrifenyddion y chwe chlwb bechgyn cyntaf ym Mhentref Bechgyn Sain Tathan. Ddeufis yn ddiweddarach, roedd y clybiau presennol yn uno fel Ffederasiwn Clybiau Bechgyn De Cymru.

 

Ar ôl proses o ddatganoli, roedd deuddeg ardal clwb yn rhanbarth De Cymru.

 

Estynnodd Ffederasiwn De Cymru ei ardal a daeth yn Gymdeithas Clybiau Bechgyn Cymru. Ar ôl cryfhau'r amodau aelodaeth, gostyngwyd cyfanswm nifer y clybiau cysylltiedig i 107, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi'u lleoli yn yr ardaloedd glofaol.

Lord-Davies Portrait

Lord Davies of Llandinam portrait

The first Annual General Meeting was held in May 1928 in Cardiff, where the participants agreed on future plans for the development of the Organisation.

1923

A group of boys from the Ocean Coalfield Area took part in a camp organised by HRH The Duke of York. This experience conceived the idea of developing a similar camp in South Wales.

1925

After an experimental period of two weeks in 1925, the St Athan Boys’ Camp - where members from every Boys' club could attend - opened. The official name was “The Miners’ Welfare Fund District Committee Seaside Camp”. The facility was supported by donations from the Miners' Welfare Fund and Captain Glynn-Jones hope to develop unity between the different clubs with the help of the camp facility.

1928

In July the first Annual Conference with club leaders, management committee members and secretaries of the first six boys' clubs took place at St Athan  Boys' Village. Two months later, the existing clubs united as The South Wales Federation of Boys' Clubs.

 

After a process of decentralisation, there were twelve club areas in the region of South Wales.

 

The South Wales Federation extended its area and became The Welsh Association of Boys' Clubs. After strengthening the membership conditions, the total number of affiliated clubs was reduced to 107, most of them located in the mining areas.

Os ydych am ddarganfod mwy am hanes y Sefydliad, mae croeso i chi ymweld â'r canllaw: "Llinell amser 28-08 Hanes Mudiad Clybiau Bechgyn yng Nghymru".

Cymerwch olwg ar ein Oriel!

bottom of page