Beth yw CBM Cymru?
Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn fudiad gwaith ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol sy'n cynnig cyfleoedd newydd a deniadol i bobl ifanc drwy ddarparu rhaglen lawn ac amrywiol o weithgareddau addysgol, diwylliannol, chwaraeon a chymdeithasol.
​
O'i ddechreuadau cynnar yn yr 1920au, mae'r sefydliad wedi datblygu i gael ei gydnabod fel un o'r sefydliadau gwaith ieuenctid mwyaf blaengar yn y DU. Mae'r mudiad yn parhau i gynnig gwasanaeth a chefnogaeth i bobl ifanc ledled Cymru mewn clybiau traddodiadol i fechgyn a merched, clybiau ieuenctid cymunedol a chlybiau sy'n darparu chwaraeon a gweithgareddau.
EIN CENHADAETH
Cynorthwyo yn y broses o ddatblygiad moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol pobl ifanc er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn i fywyd fel oedolyn.
EIN GWERTHOEDD
Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Bod wrth galon y gymuned.
Bod yn barchus, yn ddibynadwy ac yn gwmni y gall pobl ymddiried ynddo.
Gweithredu gyda phroffesiynoldeb ac uniondeb.
EIN GWELEDIGAETH
Cefnogi pobl ifanc a'u hanghenion newidiol yn y cyfnod heriol hwn drwy ddarparu mannau diogel, chwaraeon, cyfleoedd hyfforddi a phrosiectau i'w galluogi i gyflawni eu potensial a'r cyfle i gymryd rhan mewn cyfleoedd sy'n newid bywydau.
Ein gwasanaethau
Heddiw, mae gennym aelodaeth o dros 100 o glybiau sy'n darparu gwaith ieuenctid a chwaraeon ledled Cymru.
Rydym yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant i bobl ifanc i'w helpu i ddatblygu'n aelodau cyfrifol a gwerthfawr o'u cymunedau a sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad cyfartal at y cyfleoedd hyn.
Mae ein tîm staff a'n gwirfoddolwyr yn cefnogi ein haelod-glybiau gyda chyfleoedd dysgu anffurfiol fel defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, Pêl-droed yn Erbyn Hiliaeth yn Ewrop, Codio a Chodi Llais.
Rydym yn cynnig cyfle i glybiau gymryd rhan mewn prosiectau, gweithdai anffurfiol a'n cyfnewidfa ieuenctid flynyddol gyda'n partneriaid yn yr Almaen. Rydym yn darparu hyfforddiant i arweinwyr a gwirfoddolwyr gan gynnwys Cymhwyster Gwaith Ieuenctid Lefel 2 a 3.
Rydym hefyd yn rhoi cyngor i glybiau ar gyllid, cynaliadwyedd a gwneud cais am statws elusennol.