top of page

Gwaith ieuenctid

Mae’n bwysig iawn fod ansawdd ein gwaith ieuenctid yn cael ei gynnal ar lefel uchel. Yn 1992, daeth Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn elusen ac rydyn ni’n aml yn derbyn gwobrau sy’n achredu safon ein hansawdd. Mae’r rhain yn cynnwys dyfarniadau gan Fuddsoddwyr mewn Pobl a’r Marc Ansawdd.

 

Rydyn ni’n cefnogi ein clybiau i wella’u hansawdd trwy ddarparu cyngor ar sut i gyflawni ansawdd cydnabyddedig ac ennill statws elusennol. Yn ogystal â hynny, mae pob clwb yn derbyn ein Llawlyfr i Glybiau sy’n rhoi cyngor ymarferol ar sut i ddarparu gwaith ieuenctid o safon i bobl ifanc. Rydyn ni’n rhoi cyfle i bob arweinydd a gwirfoddolwr ennill Gwobr Lefel 2 mewn Gwaith Ieuenctid a Thystysgrif Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid. Cyflwynir y gwobrau hyn mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru.

 

Mae gan ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr ac arweinwyr sydd am ennill dealltwriaeth bellach o waith ieuenctid yn ogystal ag ennill cymhwyster lefel mynediad 2, hefyd y cyfle i gymryd rhan yn Rhaglen Gynefino CCGIG sef  “Cam Tuag at Waith Ieuenctid”.

Gwiriwch ein horiel

bottom of page