Sefydlu clwb?
Os ydych chi’n ystyried sefydlu clwb ieuenctid yn eich cymuned leol, un o’r pethau cyntaf y mae’n rhaid i chi feddwl amdano yw: a oes ei angen? Beth mae pobl ifanc yn eich cymuned ei eisiau, a beth maen nhw’n teimlo sydd ei angen arnyn nhw? Beth yw barn pobl leol yn eich cymuned am hyn? Er mwyn eich helpu chi i ddarganfod a oes angen clwb ieuenctid, rydyn ni’n mynd i nodi beth yw gwaith ieuenctid, a beth yw pwrpas clwb ieuenctid. Cewch ddarganfod llawer mwy trwy ymgymryd ag un o’n Modiwlau E-Ddysgu.
Pam Ymgysylltu â BGCW?
Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn elusen gofrestredig (1009142) ac yn aelod o Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS/CCGIG) sy’n rhoi’r gallu inni ddylanwadu ar bolisi cyfredol. Trwy ymgysylltu â ni, byddwn yn gallu darparu ystod o gymorth a chefnogaeth i glybiau ieuenctid a chwaraeon, a chynnig cyfle i bobl ifanc eich clwb gymryd rhan mewn amryw o brosiectau ieuenctid, digwyddiadau preswyl a mwy. Bydd arweinwyr clwb a gwirfoddolwyr yn cael cyfle i ymgymryd â hyfforddiant gwahanol. I ddarganfod mwy, mae croeso ichi gysylltu â ni neu fynd i’n gwefan E-Ddysgu.