1936
Rhwng 1936-1937, ar ôl proses o ddatganoli, penderfynwyd sefydlu “system grŵp” lle cafodd 12 arweinydd gyfrifoldeb allweddol i sefydlu hybiau rhanbarthol gyda chlybiau ategol yn ffurfio’r grwpiau.
1940
Yn ystod y rhyfel, llwyddodd y clybiau hyn i barhau â’u gwaith, er i rai o’u hadeiladau ddod yn anaddas a rhai o’u harweinwyr farw yn sgil eu cyfraniad i’r ymladd.
1947
Ym mis Mai, ar ôl rhai cyfarfodydd gyda Chymdeithas Genedlaethol Clybiau Bechgyn, estynnodd Ffederasiwn De Cymru ei ardal i gwmpasu’r Dywysogaeth gyfan gan ffurfio Cymdeithas Clybiau Bechgyn Cymru. Cyfanswm y clybiau cysylltiedig erbyn diwedd y flwyddyn oedd 107, gyda’r mwyafrif ohonynt wedi'u lleoli yn yr ardaloedd glofaol.
1958
Canolfan Antur Aber-craf, ail Wersyll y Bechgyn, yn agor.

St Athans Club
Os hoffech chi ddarganfod mwy am hanes y mudiad clybiau i bobl ifanc yng Nghymru peidiwch ag oedi cyn ymweld â'r canllaw: "Llinell Amser 28-08 Hanes Mudiad Clybiau Bechgyn yng Nghymru", a grëwyd gan Gwaith Ieuenctid Cymru yn 2017 .