Sut gallwch chi helpu?
Ein cenhadaeth yw cynorthwyo yn natblygiad moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol y bobl ifanc, fel y gallant drosglwyddo’n esmwyth i’w bywyd fel oedolion. Dyna pam rydyn ni’n credu yn ein gwaith a’n heffaith ar y gymuned.
Gallwch gyfrannu arian i’n cynorthwyo. Mae rhoddion yn ddefnyddiol i brynu deunyddiau, talu rhenti ar gyfer ein swyddfa, trefnu cynlluniau cyfnewid ieuenctid, ac ati.

Mae cyfraniad bach yn gwneud newid enfawr
Trwy gyfrannu, gallwch ein helpu ni’n ariannol. Mae rhoddion nid yn unig yn ddefnyddiol i brynu deunyddiau a thalu rhenti ar gyfer ein swyddfa, rydyn ni hefyd yn cefnogi dros 100 o glybiau ac yn trefnu llawer o raglenni i helpu pobl ifanc ddatblygu’u sgiliau a’u potensial, ac i wella dyfodol eu bywydau.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y botwm “Cyfrannwch nawr” / “Donate Now” isod - bydd yn agor ffenestr newydd i’n safle cyfrannu. Diolch!
Am ffordd arall o gyfrannu, ewch i smile.amazon.co.uk – mae e am ddim i chi ac yn help enfawr i ni
Gallwch hefyd wneud rhodd trwy siopa yn AmazonSmile (smile.amazon.co.uk). Mae hon yn rhaglen sy’n rhoi rhoddion i’ch hoff elusen heb unrhyw gost ychwanegol. Pan fyddwch chi’n siopa yn AmazonSmile, bydd 0.5% o’ch pryniannau cymwys ar Amazon yn cael eu rhoi i’r elusen o’ch dewis.
Felly, dechreuwch nawr trwy fynd at smile.amazon.co.uk a mewngofnodi gyda’ch cyfrif Amazon. Yna, dewiswch i gefnogi Clybiau Bechgyn a Merched Cymru. Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw siopa fel arfer - mae hi mor syml â hynny. Diolch am eich cefnogaeth ymlaen llaw.