Beth ydyn ni'n ei wneud?
Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru (CBMC) yn elusen gofrestredig ac yn aelod o Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CCGIG) sy’n rhoi’r gallu inni ddylanwadu ar bolisi cyfredol.
Mae CBM Cymru yn eiddgar i gynnig ein cyrsiau E-Ddysgu i unrhyw un sydd am agor neu redeg clwb cysylltiedig. Ar hyn o bryd, gallwn gynnig 2 fodiwl.
Yn sgil yr amgylchedd economaidd presennol, mae dod o hyd i gyflogaeth yn parhau’n drafferth i bobl ifanc, ac wrth i awdurdodau lleol dorri gwasanaethau, mae pobl ifanc ddifreintiedig yn dod yn fwy difreintiedig fyth. Wrth i’w hanghenion newid yn gyson, ein nod yw cefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fe wnawn ni hynny trwy ddarparu lle diogel ar eu cyfer, cynnig hyfforddiant a phrosiectau fydd yn cyflawni’u potensial, a rhoi cyfleoedd all newid eu bywydau.
Heddiw, mae mwy na 170 o glybiau ieuenctid a chwaraeon ymhob cwr o Gymru yn aelodau o’n sefydliad. Rydyn ni’n cynnig help a chefnogaeth fel y gallant ddatblygu ymhellach i fod yn rhan bwysig o’u cymunedau, a sicrhau y gall pob person ifanc gael mynediad cyfartal i gyfleoedd o’r ansawdd gorau posibl.
Mae yna sawl ffordd o gymryd rhan yng Nghlybiau Bechgyn a Merched Cymru a manteisio ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael.
Gall pobl ifanc dreulio’u hamser rhydd yn mwynhau awyrgylch groesawgar ein clybiau, a bydd ein digwyddiadau preswyl yn rhoi profiadau a fydd yn effeithio arnynt am amser hir. Mae’r hyfforddiant a gynigir i arweinwyr, gwirfoddolwyr a phobl ifanc yn rhoi cyfle i hyrwyddo’u haddysg, ac mewn rhai achosion, bydd hyn hyd yn oed yn gwella’u rhagolygon cyflogaeth i’r dyfodol.
Ariannu


Cyfnewid ieuenctid

International twrnameintiau

Cymryd Rhan
Mae sawl ffordd o gymryd rhan yng ngweithgareddau Clybiau Bechgyn a Merched Cymru a manteisio ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael.
Gall pobl ifanc dreulio eu hamser rhydd yn awyrgylch croesawgar ein haelod-glybiau a chael profiadau parhaol yn ystod ein digwyddiadau preswyl. Mae'r hyfforddiant rydym yn ei gynnig i arweinwyr, gwirfoddolwyr a phobl ifanc yn darparu cyfleoedd i addysg bellach a hyd yn oed, mewn rhai achosion, yn gwella rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.