Chwaraeon
Mae chwaraeon wedi bod yn rhan bwysig o Glybiau Bechgyn a Merched Cymru am dros 90 o flynyddoedd, ac rydyn ni’n dal i’w defnyddio fel modd i ddatblygu pobl ifanc. Trwy gymryd rhan yn aml mewn chwaraeon, gall pobl ifanc ennill profiadau newydd yn ogystal â hunanhyder, cymhelliant a sgiliau cyfathrebu gwerthfawr.
Mae’r Sefydliad yn ddiolchgar am gefnogaeth y gwirfoddolwyr yn yr holl chwaraeon yr ydym yn eu cyflawni, a heb eu cefnogaeth, ni fyddai’r bobl ifanc yn cael y cyfleoedd hyn. Rydyn ni’n cymryd rhan mewn nifer o chwaraeon, gyda sawl un ohonynt yn seiliedig ar gystadleuaeth, tra bo nifer o rai eraill yn cael eu defnyddio i wella datblygiad pobl ifanc. Isod, fe geir gwybodaeth fanylach am y chwaraeon yr ydyn ni’n ymwneud â nhw fwyaf.

Rygbi
Mae ein hadran Rygbi yn cynnwys dau dîm Dan 16 ac Ieuenctid. Yn ystod y treialon, dewisir y chwaraewyr Rygbi gorau o’n holl glybiau i gynrychioli Clybiau Bechgyn a Merched Cymru mewn twrnameintiau rhyngwladol.
Mae nifer o chwaraewyr Rygbi Cymru llwyddiannus fel Morgan Stoddart a Richard Hibbard wedi chwarae i Glybiau Bechgyn a Merched Cymru cyn dechrau ar eu gyrfaoedd proffesiynol disglair.

Pêl-droed
Rhennir ein hadran Bêl-droed yn dimau merched a bechgyn. Dewisir y sgwadiau pêl-droed yn ystod treialon o’n holl glybiau, yn union fel y timau Rygbi. Mae pob grŵp oedran yn cymryd rhan yn aml yn yr ornest hanesyddol yn erbyn Clybiau Bechgyn a Merched yr Alban.
Yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, mae ein sefydliad wedi cefnogi pêl-droed yn ei glybiau, ac ar ôl cynrychioli Clybiau Bechgyn a Merched Cymru fe aeth llawer o’n chwaraewyr ymlaen i ddechrau gyrfaoedd proffesiynol, e.e. Brian Flynn, Alan Curtis a John Hartson.

Traws Gwlad ac Athletau
Campau pwysig eraill yn ein sefydliad yw Traws-gwlad ac Athletau ac rydyn ni wedi cymryd rhan yn y chwaraeon hynny am dros 50 mlynedd.
Bob haf, mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn cynnal Cystadleuaeth Athletau fawr, sef Pencampwriaeth Clybiau Pobl Ifanc ac mae’n agored i aelodau ledled y DU.

Paffio
Mae bocsio wedi bod yn gamp draddodiadol yn y Clybiau Bechgyn ers y dyddiau cynnar. Mae’n gamp wych i ennyn diddordeb pobl ifanc ac mae nifer o Bencampwyr y Byd sy’n hanu o Gymru wedi dechrau’u gyrfa yn un o’n clybiau cysylltiedig.
Mae Pencampwyr y Byd - Nathan Cleverly a Joe Calzaghe, ill dau wedi cynrychioli Clybiau Bechgyn a Merched Cymru ym Mhencampwriaethau Prydain.